Penwern fach cottages

Self-catering holiday cottages set in tranquil West Wales countryside


01239 710345
Book Now
  • Home
  • How to Find Us
  • Special Offers
  • Out and About
  • Useful Links
  • Contact Us

Cottages

  • Teifi Holiday Cottage (sleep 5)
  • Cych Holiday Cottage (sleep 4)
  • Towy Holiday Cottage (sleep 6)
  • Gwaun Holiday Cottage (sleep 2)
  • Cothi Holiday Cottage (sleep 4)
  • Hirwaun Holiday Cottage (sleep 4)

Booking

  • Prices
  • Availability
  • Availability Enquiry
  • How to Book
  • Booking Terms & Conditions
Cenarth Falls Holiday Park Coracles Country Club at Cenarth Falls Holiday Park

Cymraeg

(This page contains a summary of our cottages in Welsh.)

Y Bythynnod

Mae bythynnod gwyliau Penwern Fach wedi eu lleoli yng nghanol deg erw o gefn gwlad godidog ac yn edrych ar draws tirwedd tonnog Dyffryn Teifi a Bryniau Preseli. Unwaith yn fferm weithgar, mae’r adeiladau cerrig gwreiddiol wedi cael eu trawsnewid mewn i fythynnod swynol clasurol yn ddelfrydol i wyliau teuluol unrhyw amser o’r flwyddyn.

Mae steil y llety yn amrywio o stiwdio tlws – yn addas ar gyfer gwyliau rhamantus i ddau – i eiddo pedwar ystafell wely, dau lawr gyda digon o le i’r teulu.

Y BYTHYNNOD, i gyd wedi eu henwi ar ôl afonydd yn yr ardal, maent yn cyfuno naws traddodiadol â chyfleusterau modern. Rydym wedi cadw’r muriau cerrig a’r trawstiau agored, a ddewch o hyd i bopeth sydd angen heddiw yn y gegin gyda oergell/rhewgell, microdon a pheiriant golchi llestri.

Mae gan pob bwthyn dodrefn cyffyrddus, carped gosodedig a teledu lliw. Mae’r bythynnod yn cael eu cadw’n lân ac yn raenus. Darperir dillad gwely ac mae’r gwyliau yn cael eu gwneud ar gyfer eich cyrhaeddiad. Mae’r ystafelloedd i gyd yn cynnwys yr ystafell ymolchi/cawod gyda gwresogyddion ac hefyd mae stôf llosgi pren yn pob bwthyn. Mae gan pob bwthyn patio eu hun sydd yn cynnwys bwrdd, cadeiriau a golau tu allan. Mae’n olygfa godidog dros Dyffryn Teifi a Mynyddoedd Preseli.

NODWCH: Darperir dillad gwely a’r gweliau wedi eu gwneud ar gyfer eich cyrhaeddiad ond bydd yn rhaid i chi ddod â tywelion ymolchi a tywelion sychu llestri eich hun.

Mae’r ddaear a’r gerddi o flaen y bythynnod yn darparu lle chwarae diogel i blant. Am hwyl ychwanegol mae gennym ystafell chwaraeon sydd yn cynnwys ford ‘pool’. Hefyd mae gennym amrediad golff o 250 llathen. Mae yna farbiciw cerrig wedi ei leoli o flaen y bythynnod ac mae yna offer barbiciw ar gael ym mhob bwthyn.

Mae’r hawl gan y rheolwr newid pris a chyfleusterau heb rybudd blaenorol.

Bwthyn Cothi (cysgu 4)

Mae bwthyn Cothi yn fwthyn estynedig prydferth sydd wedi ei leoli oddi wrth y prif bythynnod a ganddo ddaear ei hun. Mae’r bwthyn i gyd ar un llawr ac mae yna ystafell eistedd gyda stôf llosgi pren, teledu, fideo a pheiriant DVD. Cegin gosodedig gyda oergell/rhewgell, peiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri, microdon a phopty trydan. Mae ganddo ddwy ystafell wely, un gyda gwely dwbl a’r llall gyda dau wely sengl. Rydym wedi cynnwys gwely soffa i roi’r dewis o gysgu dau berson ychwanegol.

Darperir dillad gwely (arwahan i’r gwely soffa) a’r gwelyau wedi eu gwneud ar gyfer eich cyrhaeddiad. Mae gan fwthyn Cothi ystafell ymolchi gyda bath a basn ymolchi gyda ystafell tolied a basn ymolchi arwahan.

Mae’r hawl gan y rheolwr newid pris a chyfleusterau heb rybudd blaenorol.

Bwthyn Teifi (cysgu 5)

Mae bwthyn Teifi yn fwthyn cerrig prydferth wedi ei drawsnewid o’r hen laethdy – mae’r nenfwd trawstiau, cerrig naturiol – muriau a’r lloriau cerrig yn rhoi naws unigryw iddo.

Mae yna ystafell eistedd cynllun agored ar y llawr waelod gyda stôf llosgi pren, ystafell fwyta a cegin gosodedig gyda phopty, microdon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a.y.y.b.

Er mwyn cyfleustra ychwanegol mae yna ystafell gotiau sydd yn cynnwys toiled a basn ymolchi. Mae grisiau yn arwain i fyny i’r llawr cyntaf lle mae’r ystafell ymolchi gyda bath, toiled a basn ymolchi, mae yna ddwy ystafell wely, un gyda gwely dwbl a’r llall gyda thri gwely sengl.

Darperir y dillad gwely a’r gweliau wedi eu gwneud ar gyfer eich cyrhaeddiad. Mae gan y bwthyn deledu, fideo a chwaraewr DVD. Mae gan pob ystafell gwresogydd mur trydan.

Mae’r hawl gan y rheolwr newid pris a chyfleusterau heb rybudd blaenorol.

Bwthyn Cych (cysgu 4)

Mae bwthyn Cych yn debyg i, a wedi’i osod yr un peth â Bwthyn Teifi ond mae ganddo ddwy ystafell wely, un gyda gwely dwbl a’r llall gyda dau wely sengl.

Bwthyn Towy (cysgu 6 a crud)

Mae’r bwthyn hyfryd yma wedi cael ei drawsnewid o hen ystablau a llofft gwair. Arweinir grisiau i fyny o’r ystafell eistedd cynllun agored gyda stôf llosgi pren a’r celfi pinwydd sydd yn yr ystafell fwyta i dri ystafell wely – mae gan ystafell wely 1 gwely dwbl, ystafell wely 2  2 gwely sengl ac mae gan ystafell wely 3 gwely dwbl. Darperir dillad gwely a bydd y gwelyau wedi eu gwneud ar gyfer eich cyrhaeddiad.

Ystafell ymolchi gyda bath, toiled a basn ymolchi sydd yn y bwthyn yma, hefyd ar y llawr cyntaf mae yna ystafell gotiau sydd â chawod, toiled a basn ymolchi. Mae gan y bwthyn popty, microdon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, teledu, fideo a chwaraewr DVD. Gwres canolog nwy sydd gan fwthyn Towy.

Mae’r hawl gan y rheolwr newid pris a chyfleusterau heb rybudd blaenorol.

Bwthyn Gwaun (cysgu 2)

waun yn fwthyn cerrig tlws a gafodd ei drawsnewid o’r beudy gwreiddiol ac mae wedi cael ei gynllunio fel bwthyn stiwdio cynllun agored.

Mae’r llety yn cynnwys ystafell eistedd gyda stôf llosgi pren, celfi pinwydd yn yr ystafell fwyta, cegin gosodedig gyda oergell/rhewgell, microdon a phopty a.y.y.b. Lle cysgu gyda gwely dwbl. Darperir dillad gwely a bydd y gwely wedi ei wneud ar gyfer eich cyrhaeddiad. Ystafell ymolchi gyda bath ¾ a chawod uwchben, basn ymolchi a thoiled. Gwres canolog nwy trwy’r adeilad. Mae gan y bwthyn yma ardd/patio ei hun.

Mae’r hawl gan y rheolwr newid pris a chyfleusterau heb rybudd blaenorol.

  • Privacy Policy
  • Website Terms of Use
  • Website Accessibility
  • Cymraeg
  • Created by Webs Wonder
  • Admin Log in
  • Home
  • How to Find Us
  • Special Offers
  • Out and About
  • Useful Links
  • Contact Us